Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn Asiaidd â morthwyl a machete yn archfarchnad Tesco wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio.

Gwnaeth Zack Davies, 26, ymosod ar y deintydd Dr Sarandev Bhambra gyda morthwyl a machete yn yr archfarchnad yn yr Wyddgrug.

Dywedodd wrth Lys y Goron yr Wyddgrug nad oedd wedi bwriadu lladd y deintydd.

Roedd Davies wedi gwadu ceisio llofruddio, ond wedi cyfaddef achosi niwed bwriadol.

Clywodd y llys mewn gwrandawiad blaenorol fod yr ymosodiad ar 14 Ionawr eleni yn ymgais i ddial am lofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn Woolwich. Wrth roi tystiolaeth, dywedodd llygad-dyest fod Zack Davies wedi rhedeg ar ol Dr Sarandev Bhambra a’i daro gyda machete gan weiddi “cyfiawnder i’r gwynion.”

Clywodd y rheithgor hefyd bod Davies wedi ei “ysbrydoli” gan yr eithafwr IS “Jihadi John.”

Fe fydd Davies yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi tra bod adroddiadau seiciatryddol yn cael eu paratoi.