Fe allai’r Gwasanaeth Iechyd wynebu argyfwng ariannol trychinebus os nad oes mwy o ffocws yn cael ei roi ar fwyta’n iach, yn ôl un academydd.

Mewn adroddiad i’r Cynulliad a’r Sefydliad Materion Cymreig, ‘Bwyd Da i Bawb’, mae’r Athro Kevin Morgan yn amlinellu rhai o’r camau y gall y Llywodraeth eu cymryd i wella diet pobl.

Ond os nad yw pobl yn bwyta’n iachach ac yn atal problemau gordewdra rhag gwaethygu, meddai, fe allai hynny beryglu dyfodol y gwasanaeth.

“Mae llawer o afiechydon cronig – yn enwedig clefyd y galon, gordewdra, diabetes a rhai canserau – yn gysylltiedig â diet gwael ac yn costio £6biliwn y flwyddyn i’r GIG,” meddai Kevin Morgan yn yr adroddiad.

“Ar yr amcangyfrifon presennol fe allai cost gordewdra yn unig godi i £49.9bn y flwyddyn erbyn 2050 yn ôl adroddiad Foresight, swm allai beryglu bodolaeth y GIG fel rydyn ni’n ei adnabod.”

‘Mwy o fwydydd iach’

Yn ei adroddiad mae Kevin Morgan yn gwneud tair prif argymhelliad – buddsoddi mewn rheolwyr caffael sector gyhoeddus, annog bwyd da drwy’r sector gyhoeddus gyfan, ac ymestyn y bartneriaeth Bwyd am Oes mewn ysgolion.

Mae’n gobeithio gweld pleidiau gwleidyddol Cymru yn ystyried ei syniadau ar gyfer eu maniffesto nesaf, gan fynnu ei bod hi’n bwysig i’r sector gyhoeddus ddangos esiampl.

“Y ffaith yw bod llawer o bobl yn poeni am eu bwyd, mae mamau a thadau dosbarth gweithiol yn bryderus am y bwyd sy’n cael ei weini mewn ysgolion, mae llawer o deuluoedd yn pryderu am y diffyg bwyd maethlon mewn ysbytai pan maen nhw’n ymweld â’u perthnasau,” meddai’r Athro.

“Felly mae llawer o bobl yn poeni am fwyd, a dw i’n credu bod ymgyrch fwyd da iawn allan yna ac mae e ar gynnydd, ond mae angen mwy o arweiniad a chefnogaeth arno.

“Mae angen gwneud yn siŵr fod bwyd da ar gael mewn mannau cyhoeddus yn llawer mwy aml … ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai.

“Mae’n rhaid i unrhyw gymdeithas gyfiawn a chynaliadwy wneud yn siŵr eu bod nhw’n taclo anghenion maeth pobl dlawd a bregus.”

Safon uwch

Nid gorfodi pobl i fwyta’n iach yw’r nod, yn ôl Kevin Morgan, dim ond ceisio sicrhau bod yr opsiwn hwnnw ar gael ac yn fforddiadwy iddyn nhw.

“Does dim byd o’i le gyda phobl yn cael dewis ynglŷn â’u bwyd, beth rydw i’n ei awgrymu yw y dylai’r dewis fod o safon llawer uwch,” meddai’r academydd.

“Mae negeseuon iechyd cyhoeddus yn beth da, ond i fod yn onest mae’r negeseuon hynny yn cael eu boddi’n llwyr gan beth rydw i’n ei alw’n amgylchedd obesogenic rydan ni’n byw ynddi – mae’n amgylchedd sydd bron yn fwriadol yno i’n gwneud ni’n dew ac yn ordew.

“Os allwn ni ddim rheoli’n cyrff, allwn ni ddim rheoli’n cymdeithas, a’r lle i ddechrau yw bwyd da mewn mannau cyhoeddus.”