Mae tua 250 o brosiectau ynni gwynt ar y tir, sydd eisoes yn cael eu datblygu, yn debygol o gael eu canslo oherwydd bod Llywodraeth San Steffan yn dod a chymorthdaliadau, a fyddai’n cynorthwyo eu cwblhau, i ben.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Ynni Amber Rudd y cyhoeddiad yn San Steffan heddiw a dywedodd y byddai canslo cymorthdaliadau ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn debygol o olygu y bydd 2,500 o dyrbinau a oedd i fod i gael eu hadeiladu yn cael eu sgrapio.

Dywedodd y byddai’r penderfyniad, a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, yn arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr, a fyddai fel arall yn mynd i brosiectau ynni adnewyddadwy.

Fe fydd y cymhorthdal yn dod i ben ar 1 Ebrill 2016 – flwyddyn yn gynt na’r disgwyl.

Ond mynnodd Amber Rudd bod cynlluniau mewn lle i gyrraedd targed y Llywodraeth ar ynni adnewyddadwy erbyn 2020, gydag ynni gwynt ar y tir i ddarparu tua 10% o drydan y wlad.

Ychwanegodd fod y DU wedi cyrraedd terfyn yr hyn sy’n fforddiadwy, a’r hyn y mae’r cyhoedd yn barod i’w dderbyn.

Ond mae llefarydd ynni’r Blaid Lafur Caroline Flint wedi cyhuddo Amber Rudd o achosi “dryswch a phryder” ynglŷn â’r polisi.

“Rydw i am i’n gwlad gamu ymlaen nid yn ôl,” meddai Caroline Flint gan ychwanegu bod cyfleoedd swyddi a buddsoddiad yn y fantol ar draws y sector.