Llys y Goron yr Wyddgrug
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw fod dyn sydd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall mewn archfarchnad Tesco yn y dref wedi gwneud hynny er mwyn dial am lofruddiaeth y milwr, Lee Rigby.

Mae Zachary Peter Davies, 26 oed o’r Wyddgrug, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio Dr Sarandev Bhambra, 24 oed o Swydd Efrog, yn yr archfarchnad  ar ôl ei anafu’n ddifrifol gyda morthwyl a machete.

Mae Zack Davies yn gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio ond yn cyfaddef ei anafu gyda’r bwriadu o achosi niwed corfforol difrifol.

Clywodd y llys fod y deintydd dan hyfforddiant, Dr Sarandev Bhambra, bron a cholli ei law yn yr ymosodiad ar 14 Ionawr eleni.  Cafodd anafiadau difrifol sydd wedi newid ei fywyd, meddai Sion ap Mihangel ar ran yr erlyniad.

Dywedodd Zack Davies wrth yr heddlu ei fod wedi dioddef o foment o wallgofrwydd, ac nad oedd erioed wedi bwriadu lladd Dr Sarandev Bhambra. Yn hytrach, dywedodd ei fod wedi clywed lleisiau yn dweud wrtho i’w ddilyn i Tesco ac ymosod arno.

Mae’r erlyniad yn honni bod cymhelliad hiliol y tu ôl i’r ymosodiad a bod Davies wedi ymosod ar Dr Sarandev Bhambra am fod golwg Asiaidd arno. Mae’r erlyniad hefyd yn honni bod eitemau yn gysylltiedig â grwpiau asgell dde eithafol wedi cael eu darganfod yng nghartref Davies.

Dywed yr erlyniad a byddai Davies wedi lladd Dr Sarandev Bhambra oni bai bod cyn filwr wedi ymyrryd gan ei berswadio i roi’r morthwyl a’r machete ar y llawr.

Er ei fod yn aelod o grŵp asgell dde eithafol, dywedodd Davies ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun yn yr archfarchnad.

Mae’r achos yn parhau.