Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dynes 25 oed o Bournemouth, wedi iddi gael ei thrywanu i farwolaeth.

Digwyddodd yr ymosodiad brynhawn ddoe, ac mi fu farw o’i hanafiadau yn yr ysbyty yn Poole dros nos.

Cafodd dyn 26 oed ei arestio ddoe ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae e bellach wedi’i ail-arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae’r crwner a theulu’r ddynes wedi cael gwybod, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal heddiw.