Gallai ffeinal Cynghrair y Pencampwyr gael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2017, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n paratoi cais i ddenu’r ornest fawr i Stadiwm y Mileniwm ymhen dwy flynedd.

Daw’r newyddion diweddaraf yn dilyn siom Cymru wrth fethu denu Ewro 2020 i Gaerdydd.

Ond mae nifer o gemau mawr – gan gynnwys ffeinal y Super Cup – wedi rhoi’r cyfle i’r brifddinas brofi y gall gynnal gemau mwyaf Ewrop.

Fe fu pryderon yn y gorffennol am is-adeiledd y brifddinas, gan gynnwys ei gwestai a’i chyfleusterau lletygarwch.

Mae disgwyl cadarnhad ddydd Llun nesaf, Mehefin 29, ynghylch pwy fydd yn cynnal yr ornest.