Mae tri o bobol wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Swydd Derby.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r adeilad yn Langley Mill am 4.04 y bore ma.
Cafodd y tŷ a char eu difrodi yn y digwyddiad.
Mae dyn, dynes a phlentyn wedi marw, ond dydy hi ddim yn glir eto beth yn union oedd wedi achosi’r tân.
Mae nifer o adeiladau cyfagos wedi cael eu gwacáu wedi i nwy ollwng yn dilyn y tân.
Mae ymchwiliad ar y gweill.