Nicola Sturgeon
Fe fydd Nicola Sturgeon yn mynnu bod llais Yr Alban yn cael ei glywed yn y trafodaethau ynglŷn â diwygio perthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd (UE), wrth iddi gwrdd â swyddogion mewn cynhadledd yn Nulyn yn ddiweddarach heddiw.
Mae Prif Weinidog Yr Alban eisoes wedi dweud y byddai’n “annerbyniol” petai Prydain yn gadael yr UE os yw hynny’n groes i ddymuniadau’r Alban, Cymru ac Iwerddon.
Cyn i refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r UE gael ei gynnal cyn diwedd 2017, mae hi’n galw am sefydlu fforwm i roi llais i’r wladwriaeth gyfan a “sicrhau bod dymuniadau yn cael eu gwarchod”.
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd yn y gynhadledd yn Nulyn, ynghyd â phrif ffigyrau Llywodraeth Prydain.
Buddion
“Mae David Cameron wedi dweud ei fod yn benderfynol o wneud newidiadau sylweddol i dermau Prydain fel rhan o’r undeb a’i fod wedi cychwyn trafodaethau ar hyn,” meddai Nicola Sturgeon.
“Mae’r broses yn peryglu ein lle yn Ewrop a’r holl fuddion sy’n deillio o hynny, a dyna pam nad yw’r Alban eisiau gweld y refferendwm yn cael ei gynnal.”
“Ond nawr ei fod yn digwydd, mae’n hanfodol bod llais yr Alban yn cael ei glywed.”
Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing y bydden nhw’n cyd-weithio ac yn gwrando ar bob ochr o’r drafodaeth.