Mae trefnwyr gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi addo achlysur fwy nag erioed eleni ac wedi cydweithio gydag artist lleol i greu crysau-t am y tro cyntaf.

Cathryn Weatherhead, ddarlunydd llawrydd sy’n gweithio yn Stiwdios Printhaus yng Nghaerdydd, sydd wedi dylunio’r crysau. Hi hefyd sydd wedi dylunio gwaith celf a gwefan Tafwyl eleni, ar themâu tipis a baneri.

Bydd gŵyl ffrinj yn cael ei chynnal ar draws y ddinas fel rhan o Tafwyl, gyda digwyddiadau yn cychwyn wythnos i yfory, sef dydd Sadwrn 27 Mehefin.

“Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda Menter Caerdydd i greu gwaith celf ar gyfer yr ŵyl eleni – dwi wedi mwynhau dylunio’r map yn arbennig,” meddai Cathryn Weatherhead.

“Dw i mor hapus gyda’r gwaith gorffenedig – roedd yn brosiect hyfryd i fod yn rhan ohono.”