Mark Williams yw Aelod Seneddol Ceredigion
Mae chwe Aelod Seneddol o Gymru wedi arwyddo cynnig yn Senedd San Steffan yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i warchod “ethos” neuadd breswyl cyfrwng Gymraeg Pantycelyn.

Cafodd y cynnig ei gefnogi gan Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Jonathan Edwards, Hywel Williams a Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, a Paul Flynn a Susan Elan Jones o’r Blaid Lafur.

Geiriad y cynnig: “Bod y Tŷ hwn yn nodi’r rôl allweddol mae Neuadd Pantycelyn wedi’i chwarae yn hyrwyddo diwylliant a’r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; yn nodi bod gan y Brifysgol o dan ei Siarter Brenhinol ddyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg; yn nodi bod y Brifysgol wedi cael ei sefydlu yn 1872 fel Prifysgol Cymru’r bobl, wedi’i hariannu gan gyfraniadau bychan gan gyhoedd Cymru a haelioni’r diwydiannwr David Davies; yn mynegi pryder y gallai ethos presennol y Brifysgol gael ei niweidio heb lety iaith Gymraeg penodedig; yn deall bod angen gwaith atgyweirio ar y Neuadd; ac yn galw ar Gyngor y Brifysgol i dderbyn argymhellion ei grŵp gweithredol ei hun ar ddyfodol y Neuadd ei bod hi’n cael ei chadw fel llety penodedig ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar ôl cwblhau’r gwaith atgyweirio.”

Penderfynu ddydd Llun

Fe fydd Cyngor o brifysgol yn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y neuadd ddydd Llun, yn dilyn argymhelliad gan un o’i phwyllgorau i gau’r adeilad.

Yn ôl y brifysgol mae angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol i’r adeilad, ac fe fyddan nhw’n canfod llety amgen i’r myfyrwyr Cymraeg yn y cyfamser.

Ond mae’r myfyrwyr, sydd wedi meddiannu’r neuadd drwy gydol yr wythnos hon fel rhan o’u hymgyrch, wedi dweud nad ydyn nhw eisiau symud tan fod ymrwymiad clir ynglŷn ag ailddatblygu’r llety.

Bygwth ymprydio

Mae’r ymgyrchwyr eisoes wedi dweud eu bod nhw’n barod i ddechrau ymprydio “am gyfnod amhenodol” dydd Sul, 24 awr cyn cyfarfod y Cyngor.

Fe fynnodd Llywydd UMCA wrth golwg360 yr wythnos hon y byddai’r myfyrwyr yn parhau â’u hymgyrch i achub Pantycelyn oni bai eu bod nhw’n cael addewidion clir gan y brifysgol.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, dyw’r brifysgol ddim wedi dweud bod ganddyn nhw’r arian na chwaith wedi gosod amserlen bendant ynglŷn â phryd fyddai’r adeilad yn cael ei hailagor fel llety.

Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi dechrau trafod â’r myfyrwyr Cymraeg ynglŷn â llety amgen ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ond o ran eu cynlluniau tymor hir ar gyfer y neuadd, yr unig beth ddywedodd y brifysgol oedd bod “y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr.”