Mae pris petrol ar ei ucha’ ers chwe mis sy’n golygu bod nifer o yrwyr yn defnyddio llai o’u ceir, yn ôl yr AA.

Bellach, mae pris cyfartaledd petrol cyffredin yng Nghymru yn £1.17 y litr – yr ucha’ y mae wedi bod ers mis Rhagfyr 2014 – ac yn 116.42c am litr o ddisel ar gyfartaledd.

Dangosodd arolwg gan yr AA bod 37% o 28,080 o bobol a gafodd eu holi wedi dechrau defnyddio llai o’u ceir.

“Mae’n gyrru neges glir i’r Llywodraeth ar dreth danwydd,” meddai llywydd AA Edmund King. “Er bod prisiau 13c yn rhatach na’r un cyfnod y llynedd, peidiwch â meddwl bod gyrwyr yn medru fforddio cynnydd pellach mewn trethi.”