Cynyddu mae’r pryderon am dair chwaer o Bradford yng ngorllewin Swydd Efrog y credir sydd wedi teithio i Syria gyda’u naw plentyn i ymuno ag eithafwyr.

Fe ddiflannodd Khadija Dawood, 30, Sugra Dawood, 34, a Zohra Dawood, 33, ar ôl bod ar bererindod Islamaidd i Saudi Arabia ar 28 Mai.

Credir bod y plant, sydd rhwng tair a 15 oed, wedi teithio gyda’u mamau o Medina yn Saudi Arabia i Istanbwl yn Nhwrci – llwybr sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson i deithio i Syria.

Roedd disgwyl i’r chwiorydd ddychwelyd ar 11 Mehefin ond fe wnaethon nhw dorri pob cysylltiad gyda’u teulu ym Mhrydain ar 9 Mehefin.

Mae ymchwiliadau’n awgrymu bod o leiaf 10 aelod o’r teulu wedi hedfan i Dwrci’r diwrnod hwnnw.

Deellir bod gan y chwiorydd berthynas sy’n ymladd ar ran y Wladwriaeth Islamaidd (IS) neu grŵp eithafol arall yn Syria, a’r pryder yw eu bod wedi cwrdd ag ef.

Dywedodd Balaal Khan, cyfreithiwr ar ran tadau’r plant, eu bod yn bryderus am ddiogelwch y plant.

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi dweud eu bod yn rhoi cymorth i’r teulu a’u bod yn gweithio gyda’r awdurdodau dramor i geisio darganfod lle mae’r chwiorydd a’u plant.

Mae arweinwyr cymuned wedi galw am wneud mwy i fynd i’r afael a radicaleiddio pobl ifanc ar y we yn dilyn adroddiadau ddoe mai Talha Asmal, 17, o Dewsbury yng ngorllewin Swydd Efrog yw’r hunan fomiwr ieuengaf o Brydain.

Credir hefyd bod Thomas Evans o Swydd Buckingham wedi marw tra’n ymladd gyda’r grŵp eithafol Al Shabaab yn Kenya.