Theresa May
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda’i chymheiriaid yn yr Undeb Ewropeaidd heddiw ynglŷn â’r argyfwng ffoaduriaid ym Môr y Canoldir.

Bydd gweinidogion materion cartref yn cyfarfod yn Lwcsembwrg i geisio penderfynu ar strategaeth ar y cyd i ddelio â’r llif o bobl sy’n croesi i Ewrop.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig ail-gartrefu tua 60,000 o geiswyr lloches o Syria ac Eritrea o’r Eidal a Gwlad Groeg i wledydd eraill.

Ond mae’r system gwota yn cael ei wrthwynebu gan nifer o wledydd tra bod Prydain wedi nodi na fydd yn cymryd rhan.

Dywedodd Prif Weinidog yr Eidal, Matteo Renzi, ddoe ei bod hi’n annheg bod ei wlad yn gorfod ysgwyddo’r baich.

Dywedodd llefarydd ar ran  Downing Street y bydd Theresa May heddiw’n ailadrodd safbwynt y Llywodraeth.

Ddoe, roedd adroddiad newydd gan Oxfam yn awgrymu y dylai Cymru fod yn ailgartrefu o leiaf 326 o ffoaduriaid o Syria.