Jeremy Corbyn
Mae un o hoelion wyth asgell chwith y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi ymuno a’r ras i fod yn arweinydd nesa’r blaid ar y munud olaf.

Roedd y broses o enwebu ymgeiswyr i olynu Ed Miliband yn dod i ben heddiw.

Yn cystadlu yn ei erbyn fydd Ysgrifennydd Iechyd cysgodol Llafur, Andy Burnham, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Yvette Cooper, a gweinidog iechyd yr wrthblaid, Liz Kendall.

Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd gael cefnogaeth swyddogol gan o leiaf 35 o Aelodau Seneddol er mwyn cyflwyno eu henwau yn ffurfiol.

Fe fydd arweinydd nesaf y blaid Lafur yn cael ei ethol ar 12 Medi.