Prawf gwaed am glefyd siwgr
Mae mwy na 177,000 o bobl yn byw gyda chlefyd siwgr, neu ddiabetes yng Nghymru, sef y nifer uchaf erioed, yn ôl ffigurau newydd sydd wedi cael eu rhyddhau heddiw gan Diabetes UK Cymru.

Mae’r ffigurau newydd yn dangos bod y cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o glefyd siwgr dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau.

Os bydd y duedd hon yn parhau, amcangyfrifir y bydd gan 288,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes ymhen deng mlynedd, meddai Diabetes UK Cymru.

Gellir atal nifer o achosion o ddiabetes Math 2 – ond nid oes modd atal achosion o ddiabetes Math 1.

Addysg

Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae angen i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG Cymru) roi’r addysg sydd ei hangen ar bobl i reoli eu diabetes yn well, a hynny fel mater o flaenoriaeth.

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o addysg am ddiabetes sy’n cael ei roi ac mae hynny’n arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol, gan gynnwys torri rhan o’r corff i ffwrdd, dallineb a strôc.

Mae clefyd siwgr hefyd yn costio bron i £500 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru, ac mae 80% o’r swm hwnnw’n cael ei wario ar waith i reoli cymhlethdodau y gellir eu hosgoi.

Mae Diabetes UK Cymru yn galw ar GIG Cymru a byrddau iechyd lleol ledled Cymru i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda diabetes yn cael addysg a chymorth i reoli eu cyflwr yn effeithiol o ddydd i ddydd.

‘Brawychus’

Dywedodd Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Dai Williams: “Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld nifer y bobl â diabetes yn cynyddu ar gyfradd frawychus ac mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn pwysleisio’r angen i weithredu – rhaid i ni gymryd camau nawr er mwyn atal diabetes rhag difetha bywydau hyd yn oed mwy o bobl, a bygwth chwalu’r GIG sydd eisoes dan ormod o bwysau.

“Gwyddom nad yw’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar yn cael cynnig mynd ar gwrs addysg grŵp, a hynny er gwaethaf tystiolaeth gref y gall rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i bobl reoli eu diabetes yn effeithiol i leihau eu risg hirdymor o gymhlethdodau.

“Er i Lywodraeth Cymru ymrwymo i wella’r gallu i gael gafael ar addysg strwythuredig amserol i bobl â diabetes 18 mis yn ôl, prin yw’r cynnydd a wnaed. Bellach, mae angen i fyrddau iechyd ledled Cymru sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth i’w cleifion sy’n byw gyda diabetes.

“Oni wneir hyn, byddwn yn parhau i atal pobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru rhag cael y cyfle gorau posibl i fyw bywydau hir ac iach.”

Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi ar ddechrau Wythnos Diabetes. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy fynd at diabetes.org.uk/diabetesweek neu chwilio am #DiabetesandMe ar Twitter.