Ed Miliband
Mae’r enwebiadau ar gyfer y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn cau heddiw gan ei gwneud hi’n glir pwy fydd yn ceisio olynu Ed Miliband.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd cysgodol Andy Burnham, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid Yvette Cooper a gweinidog iechyd yr wrthblaid Liz Kendall i gyd wedi ennill eu lle ar y papur pleidleisio’n barod oherwydd eu bod nhw wedi sicrhau cefnogaeth mwy na  35 o Aelodau Seneddol.

Ond gyda dwsinau o ASau eto i ddatgan eu cefnogaeth, mae un o hoelion wyth adain chwith y blaid, Jeremy Corbyn, yn gorfod aros i weld os yw wedi croesi’r trothwy ac yn cael bwrw mlaen a’i ymgais dros yr wythnosau nesa, cyn i aelodau’r blaid bleidleisio dros eu ffefryn ym mis Medi.