Mae Prydain wedi cael eu gorfodi i symud ysbïwyr oherwydd bod Rwsia a Tsieina wedi cael gafael ar gudd-wybodaeth trwy ffeiliau a gafodd eu dwyn gan yr Americanwr Edward Snowden.

Mae arbenigwyr diogelwch yng ngwledydd Prydain wedi rhybuddio bod gweithredoedd Snowden wedi peryglu eu gweithgarwch gwrth-frawychiaeth.

Bellach, mae adroddiadau bod Mosgo a Beijing wedi torri codau sy’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw am dechnegau casglu gwybodaeth ac sy’n eu galluogi i adnabod ysbïwyr ungiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing wrth bapur newydd y Sunday Times: “Mae’n wir bod gan y Rwsiaid a’r Tsieinïaid wybodaeth.

“Mae’n golygu y bu’n rhaid i asiantiaid gael eu symud a bod gwybodaeth am y ffordd rydyn ni’n gweithredu’n wedi ein hatal rhag cael gafael ar wybodaeth hanfodol.”

Roedd Snowden wedi achosi cryn dipyn o bryder pan gafodd degau o filoedd o ddogfennau eu cyhoeddi ganddo oedd yn datgelu gwybodaeth am gynlluniau cudd-wybodaeth NSA a gwledydd tramor yn 2013.

Gwnaeth Snowden ffoi i Hong Kong, lle cyhoeddodd gyfres o erthyglau am ddulliau cudd-wybodaeth nifer o wledydd.

O ganlyniad, mae Snowden yn parhau ar restr o bobol y mae awdurdodau’r Unol Daleithiau’n awyddus i’w holi.