Charles Kennedy (PA)
Fe fydd angladd y gwleidydd “talentog” a chyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Charles Kennedy yn cael ei gynnal ger ei gartref yn Fort William heddiw.

Mae disgwyl i gannoedd o aelodau teulu, ffrindiau, gwleidyddion ac aelodau o’r gymuned gasglu yn Eglwys St John yn Caol am hanner dydd.

Fe fu farw Charles Kennedy yn sydyn ar 1 Mehefin yn 55 oed o ganlyniad i waedlif. Roedd wedi bod yn brwydro yn erbyn alcoholiaeth am flynyddoedd.

Cafodd ei farwolaeth ei galw yn “golled drasig i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus” gan y Prif Weinidog David Cameron ac fe roddodd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog Nick Clegg deyrnged i “un o wleidyddion mwya’ talentog ei genhedlaeth”.

Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol am 32 o flynyddoedd ond fe gollodd ei sedd yn etholaeth Ross, Skye a Lochaber i’r SNP fis Mai.