Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu honiad y Llywodraeth na fydd trethdalwyr ar eu colled o ganlyniad i werthu’r Royal Bank of Scotland (RBS).

Roedd y Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi neithiwr y bydd y Llywodraeth yn dechrau gwerthu ei siâr yn RBS, saith mlynedd ers y cwymp ariannol.

Dywedodd ei fod wedi dod i’r penderfyniad ar ôl i adolygiad annibynnol ddod i’r casgliad y byddai unrhyw golled i’r trethdalwr yn cael ei ad-dalu o’r elw o werthu cyfrannau mewn banciau eraill, gan gynnwys ei siâr yng ngrŵp bancio Lloyds.

Mae’r Canghellor wedi cyfaddef  y byddai’r Llywodraeth yn gwneud colled o £7 biliwn petai ei chyfran yn cael ei gwerthu ar unwaith.

Ond dywedodd Chris Leslie wrth ASau na allai’r Trysorlys gymryd arno na fyddai’n gwneud colled o werthu RBS.

Roedd hefyd eisiau gwybod pam nad oedd y Canghellor yn bresennol yn y Senedd i gyhoeddi’r datganiad ei hun ar ôl cyflwyno cyfres o bolisïau yn ei anerchiad yn Mansion House neithiwr.

Gweinidog y Trysorlys, Harriett Baldwin, oedd a’r cyfrifoldeb o gyflwyno’r datganiad yn y Senedd.

‘Ateb cwestiynau’

Gofynnodd Chris Leslie: “Oni ddylai fod a’r cwrteisi i ddod i Dy’r Cyffredin i ateb cwestiynau ei hun ynglŷn â’r hyn a allai fod yn un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf pwysig i’r Senedd hon?

“Mae trethdalwyr yn haeddu cael gwybod mwy am be sy’n digwydd fan hyn a pham fod y Canghellor, pan mae ’na gwestiynau anodd ei hateb, bob amser yn rhoi’r bai ar rywun arall neu’n anfon rhywun arall yn ei le?”

Ychwanegodd Chris Leslie: “Fe fydd trethdalwyr a oedd wedi achub RBS yn ystod yr argyfwng ariannol eisiau eu harian yn ôl, ac fe fyddan nhw’n amheus o’r brys i werthu’r banc.”

Dywedodd Harriett Baldwin: “Does dim dwywaith mai dechrau gwerthu siâr y Llywodraeth yn RBS yw’r peth gorau i wneud ar gyfer trethdalwyr a’r economi.

“Nid ein barn ni yn unig yw hyn, ond dyna farn llywodraethwr Banc Lloegr hefyd.

“Rydym ni am wneud yn siŵr bod trethdalwyr yn cael biliynau o bunnoedd yn ôl na’r hyn gawson nhw eu gorfodi i dalu yn y lle cyntaf.”

Roedd y cyn Lywodraeth Lafur wedi rhoi £45.4 biliwn i geisio achub RBS – gan gymryd siâr o 79% yn y banc – yn sgil y cwymp ariannol yn 2008.