Llyr Gruffydd
Mae deiseb sy’n galw am ymestyn y ddarpariaeth addysg Gymraeg yn ardal Wrecsam wedi cael ei arwyddo gan gannoedd o bobol o fewn 12 awr o’i chyhoeddi.

Fe agorodd Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt dair blynedd yn ôl ond eisoes mae’r dosbarthiadau’n llawn, gyda rhieni sy’n byw mor agos â 0.9 milltir o giatiau’r ysgol yn methu cael lle yno.

Mae AC Plaid Cymru yn y Gogledd Llyr Gruffydd yn cefnogi’r alwad i ymestyn y ddarpariaeth ac yn dweud bod angen i Gyngor Wrecsam wrando ar rieni sydd eisiau danfon eu plant i ysgol Cymraeg newydd.

“Mae llawer o deuluoedd yn cael gwybod y bydd eu plant yn gorfod mynd i ysgolion gwahanol o gymharu â’u brodyr a chwiorydd. Bydd hynny’n ei gwneud yn amhosibl i lawer o rieni gasglu a mynd â’u plant i wahanol ysgolion cynradd ar yr un adeg,” meddai Llyr Gruffydd.

Ychwanegodd bod 19 o blant wedi methu cael lle yng nghylch meithrin yr ysgol yn ddiweddar yn ogystal â phum disgybl yn y dosbarth derbyn.

“Er fy mod yn gwerthfawrogi bod llefydd meithrin wedi cynyddu o 50% yn y sector cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyngor yn parhau i fethu ag ateb y galw ac mae’n amlwg y bydd llawer o bobl sy’n byw unrhyw bellter o ysgol cyfrwng Cymraeg yn ei chael yn amhosibl cael lle gan fod y cyngor yn blaenoriaethu disgyblion ar sail ddaearyddol.”

Arolwg

Yn 2007, cynhaliodd y cyngor arolwg o rieni plant dwy flynedd oed yn y sir i weld faint o alw oedd yno ar gyfer addysg Gymraeg.

Dywedodd 44% o rieni y bydden nhw’n anfon eu plant i ysgol Gymraeg o fewn dwy filltir i’w cartref, ac yn sgil hyn roedd rhaid i’r cyngor ystyried adeiladu ysgol newydd – dyna fan cychwyn codi Ysgol Bro Alun.

“Mae’r plant dan sylw yn yr astudiaeth honno yn awr ar fin mynd i addysg uwchradd. Dylai’r cyngor gynnal arolwg newydd o rieni â phlant dwy flwydd oed i fesur y galw at y dyfodol ac, os oes angen, cynllunio ar gyfer ysgol newydd,” meddai Llyr Gruffydd.

Mae deiseb sy’n gofyn am arolwg o’r fath eisoes wedi derbyn 225 o enwau mewn 12 awr.