Marguerite Patten
Mae’r gogyddes ac un o’r cogyddion teledu cyntaf, Marguerite Patten, wedi marw yn 99 oed, cyhoeddodd ei theulu.
Cafodd ei geni yng Nghaerfaddon ac fe ddechreuodd goginio pan oedd hi’n 13 oed.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu hi’n gweithio i’r Weinyddiaeth Fwyd yn awgrymu ryseitiau gan ddefnyddio’r bwyd oedd ar gael.
Fe sgwennodd dros 170 o lyfrau a gwerthu 17 miliwn o gopïau ohonyn nhw ledled y byd.
Dywedodd ei theulu ei bod wedi marw o salwch ar 4 Mehefin, ar ôl dioddef o strôc yn 2011.