Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau cyllid sawl bwrdd iechyd, ond wedi mynegi pryder am gynllun Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Yn ei ddiweddariad ar sefyllfa ariannol y byrddau iechyd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd mewn mesurau arbennig, yn “wynebu sawl her o ran gwasanaeth a pherfformiad, sy’n gofyn am gymorth parhaus. Bydd datblygu cynllun clir a thrylwyr yn rhan o hyn.”

Mae’n ofynnol bellach i fyrddau iechyd ddangos sut y caiff adnoddau eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd, gan nodi sut maen nhw am wella canlyniadau iechyd, ansawdd gofal a sicrhau’r gwerth gorau o adnoddau.

Nid yw cynlluniau’n cael eu cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd oni bai bod proses gadarn o graffu a chymeradwyo wedi’i chynnal ar lefel bwrdd.

Cymeradwyo pump

Ar sail y broses honno, cafodd pump o gynlluniau eu cymeradwyo – Cwm Taf ac Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd addysgu Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Mae cynlluniau Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Ond mae tri sefydliad – Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi penderfynu nad oes modd cyflwyno cynlluniau tymor canolig derbyniol am y tro.

‘Newidiadau sylweddol’

Dywed Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod nhw wedi bod trwy gyfres o newidiadau sylweddol yn ystod y flwyddyn, ac y byddan nhw’n cyflwyno cynllun y flwyddyn nesaf.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dangos cynnydd sylweddol ac fe fyddan nhw’n parhau i ddatblygu eu cynllun i’w gyflwyno’r flwyddyn nesaf.

Ond mae angen “cymorth parhaus” ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac fe fydd angen “datblygu cynllun clir a thrylwyr” erbyn y flwyddyn nesaf.

Daw sylwadau’r Gweinidog Iechyd ar y diwrnod y dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod gan y bwrdd “ddiwylliant o fwlio a biwrocratiaeth”.