Mae banc HSBC wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared a hyd at 25,000 o swyddi yn fyd-eang, fel rhan o gynlluniau i leihau costau a diwygio “sylweddol” o’r busnes.
Dywedodd y banc ei fod yn bwriadu lleihau nifer y gweithlu llawn amser o tua 10%.
Yn ôl adroddiadau fe allai 8,000 o swyddi ddiflannu yn y DU – mae gan HSBC 48,000 o weithwyr yn y DU.
Mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i werthu ei adrannau yn Nhwrci a Brasil.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r banc geisio lleihau costau rhwng £2.9 biliwn a £3.3 biliwn erbyn diwedd 2017.
Dywedodd HSBC y byddai hefyd yn dod a’i adolygiad i ben ynglŷn ag adleoli ei bencadlys erbyn diwedd y flwyddyn. Fe gyhoeddodd y banc yn ddiweddar ei fod yn ystyried symud o’r DU.
Yn ôl y prif weithredwr Stuart Gulliver fe fydd eu gweithredoedd “yn trawsnewid y sefydliad.”