Gallai defnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus gael ei wahardd yng Nghymru o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynnig yn rhan o Fesur Iechyd y Cyhoedd, fydd hefyd yn ceisio ei gwneud hi’n anghyfreithlon i roi tybaco i rai dan 18 yn ogystal â chyflwyno rheolau trwyddedu newydd ar gyfer siopau tatŵ.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod e-sigaréts yn “normaleiddio ysmygu.”

Daw’r cynlluniau yn dilyn cynnydd sylweddol  yn nifer y bobl sy’n defnyddio e-sigaréts. Mae’r grŵp gwrth-ysmygu Ash yn amcangyfrif fod 2.6 miliwn o bobl yn eu defnyddio  yn y DU – gyda chwmnïau e-sigaréts yn aml yn marchnata eu cynnyrch fel dewis rhatach a llai niweidiol i ysmygu confensiynol.

Yn ddiweddar, rhybuddiodd y Gymdeithas Cardioleg Ewropeaidd fod angen yr un cyfyngiadau ar e-sigaréts ag sydd ar sigaréts i osgoi nifer y bobl ifanc sy’n eu defnyddio – er eu bod yn cydnabod fod e-sigaréts yn “gymharol effeithiol” wrth helpu smygwyr i roi’r gorau iddi.

Ond mae cyrff meddygol eraill fel Sefydliad y Galon yn dweud nad oes digon o dystiolaeth i brofi bod e-sigarets yn cael effaith hirdymor negyddol, ac yn dadlau y dylid eu rheoleiddio yn hytrach na’u gwahardd.

‘Angen tystiolaeth’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: “Mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol yn awr ystyried yr holl dystiolaeth am effeithiau e-sigarets ar iechyd cyhoeddus.

“Mae e-sigarets yn cael eu defnyddio yn helaeth gan bobl sy’n ceisio rhoi’r gorau i smygu, felly fe ddylem fod yn ofalus iawn rhag atal y duedd hon. Allwn ni ddim rhoi’r bobl hyn yn agored i’r perygl o ddychwelyd at sigaréts tybaco o e-sigarets.

“Rhaid i’r Gweinidog Iechyd yn awr ddatgan yn glir pa dystiolaeth sydd i brofi y bydd gwahardd e-sigarets yn cael effaith llesol, a byddaf yn gofyn i’r Pwyllgor Iechyd gymryd y dystiolaeth ehangaf bosib ar hyn cyn dod i gasgliadau. Rhaid cadw deddfwriaeth iechyd cyhoeddus ar gyfer mesurau lle mae tystiolaeth ddiamheuol fod niwed cyhoeddus yn cael ei wneud.”

‘Biwrocratiaeth ddiangen’

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC, fod ei blaid yn croesawu mesurau i amddiffyn plant rhag cael mynediad i dybaco a nicotin, ond fod agweddau eraill o’r mesur yn “ymyrryd gyda  hawliau’r unigolyn, yn creu biwrocratiaeth ddiangen a allai niweidio agenda iechyd y cyhoedd.”
Meddai Darren Millar AC: “Byddai cyfyngu e-sigaréts yn ei gwneud hi’n fwy anodd i ysmygwyr roi’r gorau i’r arfer.

“Mae’n rhaid i Weinidogion Llafur wrando ar farn arbenigwyr meddygol i sicrhau bod y Bil hwn yn helpu i annog byw’n iach ac yn lleihau risgiau iechyd heb greu haenau ychwanegol a chostus o fiwrocratiaeth.”

‘Cydbwysedd cywir’

Dywedodd yr Athro Mark Drakeford: “Mae’r Mesur hwn yn dilyn ein hymgynghoriad y llynedd ar Bapur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd. Rydym wedi gwneud newidiadau i bob adran yn dilyn y broses ymgynghori a’r adborth gwerthfawr a gawsom.

“Rydym yn awyddus i gael y cydbwysedd cywir rhwng yr holl bethau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd pobl tra’n bod ni ddim eisiau amharu ar hawliau cyfreithlon unigolion i reoli eu bywydau eu hunain.”

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) yng Nghymru yn croesawu’r Mesur, ond yn rhybuddio bod angen rhagor o weithredu ar alcohol a gordewdra.

Dywedodd Dr Alan Rees, is-lywydd yr RCP yng Nghymru ei fod yn “siomedig” nad yw’r Mesur yn cynnwys isafswm pris uned ar gyfer alcohol ac nad oes unrhyw gamau pendant ar fynd i’r afael â gordewdra.

Meddai Dr Alan Rees: “Fel meddygon, dyn ni’n gweld  effaith ddinistriol ysmygu, gordewdra a chamddefnyddio alcohol bob dydd, ac rydyn ni’n gwybod nad oes ateb hawdd.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith pob polisi llywodraeth ar iechyd ym mhopeth a wnânt. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y Mesur hwn yn uchelgeisiol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd pobl Cymru.”

Siopau tatŵ

Mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, hefyd wedi croesawu rheolaeth lymach ar siopau tatŵ gan ddweud bod peryglon iechyd adnabyddus yn gysylltiedig â’r siopau ac y byddai’r trwyddedau yn sicrhau mai dim ond y siopau sydd ag arferion gweithio diogel fydd yn cael tatwio.