Cyn filwr yn Normandi, Ffrainc
Fe fydd rhai o gyn-filwyr Prydain yn nodi 71 mlynedd ers glaniadau D-Day yn ystod yr Ail Ryfel Byd heddiw drwy fynychu gwasanaethau yn Normandi.

Fe fydd seremonïau yn cael eu cynnal yn Arromanches a Bayeux, y dref gyntaf i gael ei rhyddhau rhag y Natsïaid yn dilyn glaniadau D-Day yng ngogledd Ffrainc ar 6 Mehefin, 1944.

Mae tua 150 o gyn-filwyr o Brydain wedi teithio i Ffrainc i nodi’r achlysur – y cyrch mwya’ erioed ar y môr.