Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i roi rhagor o fanylion ynglŷn ag effaith dod ag aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd i ben.

Mae angen sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled petai’r DU yn gadael yr UE yn sgil refferendwm arfaethedig yn 2017, meddai AS Arfon.

Dywedodd ar raglen y Post Cyntaf bore ma ei fod yn bryderus iawn am yr hyn fyddai’n digwydd i’r arian sydd yn dod o Ewrop i gyllido prosiectau hanfodol yn rhai o gymunedau tlotaf Cymru, ac mae’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth San Steffan gael cynlluniau wrth gefn.

Meddai: “Dydy o ddim yn edrych fel bod Llywodraeth Llundain wedi meddwl am y peth – does dim digon o ddiddordeb wedi bod yn y manylder.

“Fe fyddwn ni yn ymladd yn galed iawn i gadw Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd ond be sy’n ein poeni ni ydy nad yw’r Llywodraeth wedi bod yn eglur. Os oes unrhyw berygl i’r arian mae Cymru yn ei gael yna dylen ni gael gwybod.

“Dw i ddim eisiau codi bwganod ond mae ’na berygl go iawn yma – mae eisiau i’r Llywodraeth fod yn eglur a rhoi atebion i ni.”

Ychwanegodd nad oedd yn “fater o falchder” bod Cymru mor ddibynnol ar  arian o’r Undeb Ewropeaidd “ ond y gwir ydy mai dyma’r unig ffriodd i ni godi allan o’r tlodi ydy drwy gael help ariannol.”

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol drafod y mesur i gynnal refferendwm yn San Steffan ddydd Mawrth.