David Cameron
Fe ddylai honiadau o dwyll a llygredd yn Fifa sbarduno’r gymuned ryngwladol i dargedu’r llygredd mewn sefydliadau, busnesau a llywodraethau yn fyd-eang.

Bydd y Prif Weinidog David Cameron yn defnyddio cynhadledd y G7 yn yr Almaen i alw am ymdrech ryngwladol i fynd i’r afael a llygredd, gan ddweud ei fod yn atal twf economaidd a datblygiad mewn gwledydd ar draws y byd.

Fe fydd yn dweud hefyd bod sgandal Fifa wedi dangos bod taflu goleuni ar sefydliadau yn gallu arwain at fynd i’r afael a’r problemau.

Bydd David Cameron yn ymuno ag Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, Arlywydd Ffrainc Francois Hollande, Prif Weinidog yr Eidal Matteo Renzi, Prif Weinidog  Canada Stephen Harper a Phrif Weinidog Japan Shinzo Abe ar gyfer y gynhadledd ddeuddydd yn Alpau Bafaria sy’n cael ei llwyfannu gan Ganghellor yr Almaen Angela Merkel.

Mae Merkel wedi rhoi newid hinsawdd a datblygiad cynaliadwy ar flaen agenda’r gynhadledd flynyddol sy’n dechrau ddydd Sul. Bydd hefyd yn rhoi sylw i dwf economaidd, diogelwch a’r bygythiad yn sgil brawychiaeth.

‘Rhaid bod yn agored’

Ond fe fyd David Cameron yn dadlau bod llygredd yn cael effaith ar yr holl elfennau yma a bod yn rhaid ei drafod yn agored fel rhan o’r trafodaethau.

Mae disgwyl iddo ddweud bod Banc y Byd yn amcangyfrif bod llygredd yn ychwanegu 10% at gostau busnes drwy’r byd gyda £650 biliwn yn cael ei dalu mewn llwgrwobrwyon bob blwyddyn.

Mae dyletswydd ar arweinwyr y byd i wneud yr hyn gallen nhw i fynd i’r afael a’r mater, meddai.

“Llygredd yw’r canser sydd wrth wraidd cymaint o’r problemau rydyn ni’n ei wynebu ar draws y byd. Nid yn unig mae’n bygwth ein datblygiad ond mae hefyd yn tanseilio ein diogelwch,” meddai David Cameron cyn y gynhadledd.