Pont Briwet
Ar ôl hir ddisgwyl, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd Pont Briwet ger Penrhyndeudraeth yn agor ar ddydd Llun 13 Gorffennaf.

Mae’r dyddiad chwe mis ar ôl y dyddiad agor gwreiddiol, gafodd ei ohirio oherwydd “problemau technegol”.

Roedd pobol yr ardal yn anfodlon iawn gyda’r oedi gan yr adeiladwyr Hochtief, a bu galw am godi pont dros dro.

Fe fydd y lon newydd gwerth £19.5miliwn tros aber yr afon Dwyryd  yn cael ei hagor yn swyddogol gan blant Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth yn ystod seremoni fer o flaen llaw.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer trafnidiaeth: “Rwy’n hapus iawn fod gennym ni ddyddiad agor ar gyfer y bont, yn barod ar gyfer cyfnod prysur gwyliau’r haf.

“Mae’r aflonyddwch a achoswyd i’r cymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu yn dilyn cau’r bont, wedi rhoi pwyslais ar ba mor angenrheidiol yw’r ffordd hon.

“Mae’n newyddion gwych i bawb ein bod cyn bo hir yn mynd i fedru cymryd mantais lawn o’r cyfleuster newydd cyffrous yma, sy’n addas ar gyfer ein trafnidiaeth ni heddiw yn ogystal â’r dyfodol.”