Mae ysgoloriaeth gwerth £2,000 yn cael ei chynnig i bobol dramor ddod i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Caiff yr ysgoloriaeth ei chynnig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion y brifddinas er mwyn dathlu 40 mlynedd o gynnal y Cwrs Haf Cymraeg.
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus dreulio o leiaf pedair wythnos yn dysgu’r Gymraeg , ac mae gofyn i bob un ddangos sut y bydden nhw’n defnyddio’r iaith ar ôl bod ar y cwrs.
Fe all unrhyw un o du allan i Ynysoedd Prydain gyflwyno cais am yr arian cyn 12 Mehefin.