Mark Drakeford yw Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud ei fod am gwrdd â rhai o deuluoedd y cleifion gafodd eu cam-drin ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fe ymddiheurodd Mark Drakeford ddydd Mercher am y gofal gwael a roddwyd i’r cleifion gan ddweud y bydd “cyfarfod brys” yn cael ei gynnal i ystyried rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig.
“Rwy’n awyddus i siarad â’r teuluoedd pan fo’r amser yn iawn,” meddai. “Mae hyn yn amser anodd iawn i’r teuluoedd.”
Fe ddaeth yr ymddiheuriad ar ôl i ymchwiliad annibynnol ddarganfod camdriniaeth sefydliadol ar y ward.
Roedd teuluoedd y cleifion oedrannus, rhai oedd yn dioddef o ddementia, yn dweud bod eu hanwyliaid yn cael eu trin “fel anifeiliaid”.
Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol am yr helynt.