Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi eu bod yn dechrau’r broses o breifateiddio gweddill y Post Brenhinol.
Yn ôl y Canghellor, fe fyddan nhw’n dechrau gwerthu cyfran y Llywodraeth o’r cwmni, sydd werth tua £1.5 biliwn.
Wrth wneud y cyoeddiad yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd George Osborne yn mynnu mai dyma’r trywydd gorau i’r Post Brenhinol.
“Dyma’r peth cywir i’w wneud ar gyfer y Post Brenhinol, y busnesau a’r teuluoedd sy’n ddibynnol arno ac mae’n hanfodol ar gyfer y trethdalwr.”
Mae’r Llywodraeth wedi penodi cwmni Rothschild i gynghori’r Weinyddiaeth Fusnes ar werthiant siar y Post Brenhinol.