Charles Kennedy
Fe fydd Aelodau Seneddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn talu teyrnged i Charles Kennedy heddiw mewn sesiwn arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd gwleidyddion eu syfrdanu ddoe o glywed am farwolaeth sydyn cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 55 oed.

Cafwyd hyd i’w gorff yn ei gartref yn Fort William nos Lun.

Mae amser wedi cael ei neilltuo ar ôl Cwestiynau’r Prif Weinidog i roi’r cyfle i ASau roi teyrnged i Kennedy.

Cafodd teyrngedau lu eu rhoi i Charles Kennedy ddoe gyda Nick Clegg yn dweud ei fod yn “un o wleidyddion mwyaf talentog ei genhedlaeth.”

Roedd Charles Kennedy wedi bod yn Aelod Seneddol am 32 o flynyddoedd ond fe gollodd ei sedd yn etholaeth Ross, Skye a Lochaber i’r SNP fis diwethaf ar ôl eu llwyddiant ysgubol yn yr etholiad cyffredinol.