Mae Aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwahardd pobl rhag smygu mewn ceir sy’n cludo plant o dan 18 oed.
Bydd y newid yn dod i rym ar 1 Hydref. Bydd pobol sy’n anwybyddu’r gwaharddiad yn cael dirwy o £50.
Cafodd y polisi gefnogaeth y mwyafrif gyda 46 yn pleidleisio o blaid ac un yn erbyn yn y Senedd y prynhawn ma.
Cymru yw’r wlad gyntaf ym Mhrydain i fynd i’r afael â smygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol.
Mae Gweinidog Iechyd Mark Drakeford eisoes wedi dweud y bydd y gwaharddiad yn amddiffyn plant rhag peryglon mwg tybaco, a all arwain at glefydau cronig.
‘Cam pwysig ymlaen’
Dywedodd Mark Drakeford: “Rwy’n falch iawn bod Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau i wahardd pobl rhag smygu mewn ceir pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol.
“Bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 1 Hydref 2015, sef yr un diwrnod ag y bydd gwaharddiad yn dod i rym yn Lloegr.
“Nod y rheoliadau hyn yw diogelu plant rhag y niwed sy’n gysylltiedig â bod yn agored i fwg ail law wrth deithio mewn cerbydau preifat.
“Mae’r bleidlais o blaid y gwaharddiad heddiw yn nodi cam pwysig ymlaen ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.”
‘Rhy lawdrwm’
Ond mae rhai sy’n beirniadu’r polisi yn dweud ei fod yn rhy lawdrwm ac y gallai arwain at wahardd pobl rhag smygu yn eu cartrefi eu hunain pan mae plant yn bresennol.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod y mater o “wahardd ymddygiad” yn un cymhleth.
“Pryd ydan ni’n dweud wrth bobl na allen nhw smygu o flaen eu plant yn eu cartrefi eu hunain?” ychwanegodd.
Dywedodd Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol na fyddai ef yn pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth.
Mae gwaharddiad wedi bod mewn grym yn erbyn smygu mewn mannau cyhoeddus dan do ers 2007. Ond tra bod y ddeddfwriaeth yn cynnwys cerbydau cyhoeddus a’r gweithle, nid oedd yn cynnwys cerbydau preifat.
‘Pleidlais hanesyddol’
Mae nifer o grwpiau sy’n cynrychioli plant wedi croesawu’r newyddion.
Dywedodd Dr Mair Parry, swyddog iechyd plant gyda Choleg Brenhinol Iechyd Plant a Phaediatreg Cymru: “Mae hon yn bleidlais hanesyddol ac yn fuddugoliaeth i iechyd plant. Mae ’na dystiolaeth feddygol eang o’r niwed mae mwg sigaréts yn gallu ei achosi i blant.”