Sepp Blatter
Mae llywydd Fifa Sepp Blatter wedi cyhoeddi’r prynhawn ma ei fod yn ymddiswyddo.

Fe fydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yn fuan i ddewis ei olynydd.

Daeth y cyhoeddiad syfrdanol mewn cynhadledd newyddion yn Zurich  prynhawn ma.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad dywedodd Blatter, 79, bod angen “ail-strwythuro sylweddol” yn Fifa.

Ychwanegodd ei fod wedi “ystyried yn ddwys” ond ei fod yn teimlo bod yn “rhaid gwneud yr hyn sydd orau i Fifa.”

Dywedodd y bydd yn parhau yn ei swydd nes y bydd ei olynydd yn cael ei ddewis. Roedd wedi bod yn y swydd ers 17 mlynedd.

Roedd Blatter wedi gwrthod ildio i bwysau arno i ymddiswyddo ar ôl i saith o uwch swyddogion Fifa gael eu harestio yn Zurich wythnos diwethaf ar amheuaeth o dwyll, llygredd a derbyn llwgrwobrwyon yn sgil ymchwiliadau gan yr FBI.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhuddo 18 o bobol dros lwgrwobrwyon honedig o fwy na £98 miliwn a dalwyd i ennill cytundebau hawliau teledu, nawdd a phleidleisiau i gynnal Cwpan y Byd.

Mewn datblygiad ar wahân, mae twrnai cyffredinol y Swistir hefyd wedi agor achos troseddol dros ddyfarnu Cwpan y Byd i Rwsia yn 2018 a Qatar yn 2022, a byddan nhw’n holi 10 o aelodau pwyllgor gweithredol cyfredol FIFA yn ystod yr ymchwiliad hwnnw.

Nid yw Sepp Blatter yn rhan o’r ymchwiliad gan yr awdurdodau yn Y Swistir, meddai’r twrne cyffredinol yn Bern.

‘Cam cyntaf’

Wrth groesawu’r cyhoeddiad am ei ymddiswyddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale: “Dim ond dechrau’r broses o newid rydym angen ei weld gan Fifa yw hwn.

“Rwy’n mawr obeithio mai dyma’r cam cyntaf tuag at Fifa newydd a fydd yn gallu ennyn hyder a pharch y byd pêl-droed unwaith eto.”