Bu farw’r Arglwydd Hugh Griffiths, cyn-gricedwr a ddaeth yn enw blaenllaw ym myd y gyfraith, yn 91 oed.

Cafodd ei addysgu yn Charterhouse cyn ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig.

Enillodd yr Arglwydd Griffiths fedal y Groes Filwrol am ei ran mewn cyrch i analluogi tanciau Almaenig yn 1944.

Ar ddiwedd y rhyfel, aeth i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt, lle enillodd ‘gap glas’ am chwarae criced a golff.

Ef oedd y barnwr yn achos “Spycatcher” yn yr 1980au, pan geisiodd llywodraeth Prydain atal Peter Wright rhag cyhoeddi llyfr yn datgelu manylion cudd am ei gyfnod fel swyddog MI5 ac MI6.

Cafodd ei ddyrchafu’n Arglwydd Ustus yn 1985.

Cafodd ei ethol yn Llywydd clwb criced yr MCC yn 1991-92, y cricedwr cyntaf o Forgannwg i dderbyn yr anrhydedd.

Roedd hefyd wedi gwasanaethu fel Llywydd Clwb Golff y Royal and Ancient.

Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Fel bowliwr agoriadol yn 1948, chwaraeodd yr Arglwydd Griffiths ran yn un o’r blynyddoedd pwysicaf a mwyaf enwog yn hanes ein clwb.

“Pe na bai e wedi dilyn gyrfa mor ddisglair ym myd y gyfraith, yn ddiau fe allai fod wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn fel cricedwr sirol gyda Morgannwg.

“Fe ges i bleser o’r mwyaf wrth gael cyfarfod â’r Arglwydd Griffiths tra roedd yn Llywydd yr MCC ac ar achlysuron eraill yn Lord’s, gan gynnwys ym mlwyddyn ein canmlwyddiant yn 1988 pan siaradodd e yn ystod ein cinio arbennig yn y ‘Long Room’ yn Lord’s.

“Mae Clwb Criced Morgannwg wedi colli cyfaill a chefnogwr, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau lu.”