Mae arbenigwyr yn awgrymu ein bod ni’n dechrau ar “gyfnod newydd” ar gyfer triniaethau canser ar ôl canlyniadau “anhygoel” i dreialon dosbarth newydd o gyffuriau.

Mae Imiwnotherapi, sy’n harneisio system imiwnedd y corff i ymosod ar gelloedd canseraidd, wedi bod mor effeithiol mewn un treial yn y DU nes bod mwy na hanner y cleifion sydd â melanoma datblygedig wedi gweld ei tiwmorau’n crebachu neu’n dod o dan reolaeth.

Mae nifer o dreialon y cyffuriau newydd nawr yn cael eu cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Oncoleg Glinigol America yn Chicago.

Dywedodd yr Athro Peter Johnson, cyfarwyddwr oncoleg feddygol  Cancer Research UK, fod y dystiolaeth yn awgrymu “ein bod ar ddechrau cyfnod newydd ar gyfer triniaethau canser.”

Mewn un treial rhyngwladol, cafodd 945 o gleifion gyda melanoma datblygedig eu trin â’r cyffuriau ipilimumab a nivolumab.

Fe wnaeth y triniaethau stopio datblygiad y canser am bron i flwyddyn mewn 58% o achosion, gyda thiwmorau yn sefydlogi neu’n crebachu am gyfartaledd o 11.5 mis.