Craig Roberts, un o'r milwyr fu farw ym Mannau Brycheiniog
Fe fydd cwest i farwolaeth tri milwr fu farw yng ngwres Bannau Brycheiniog yn 2013 yn cael ei gynnal y bore ma.

Bydd y gwrandawiad hir-ddisgwyliedig yn edrych ar yr amgylchiadau yn ymwneud a marwolaeth James Dunby, 31, Edwards Maher, 31, a Craig Roberts, 24, yn dilyn sesiwn hyfforddi ar fynydd Pen-y-fan ym mis Gorffennaf 2013.

Roedd y sesiwn – oedd yn rhan o broses o ddewis milwyr ar gyfer yr SAS – yn cynnwys taith gerdded o 40 o filltiroedd mewn tymheredd o bron i 30 gradd selsiws.

Dywedodd llygad-dystion fod y milwyr yn pledio am ddŵr.

Bu farw Craig Roberts o Fae Penrhyn ar y mynydd, tra bod y ddau arall wedi marw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Clywodd gwrandawiad gwreiddiol i farwolaeth y tri fod Craig Roberts ac Edward Maher wedi marw o ganlyniad i effeithiau’r gwres, tra bod James Dunby wedi marw oherwydd bod ei organau wedi methu.

Roedd disgwyl i’r cwest gael ei gynnal ar ddiwedd 2014 ond cafodd ei ohirio am wyth mis er mwyn caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) adolygu ei benderfyniad i beidio dwyn achos troseddol yn erbyn dau o swyddogion yr SAS.

Mae’r CPS eisoes wedi cadarnhau mai eu penderfyniad gwreiddiol oedd yr un cywir.

Mae ymchwiliad ar wahân gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r heddlu yn parhau.

Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Solihull am 10 o’r gloch fore Llun. Mae disgwyl i’r cwest bara pedair wythnos.