David Cameron ar wibaith o wledydd Ewrop
Fe fydd pleidleiswyr yn ateb y cwestiwn a ddylai’r DU “aros yn aelod” o’r Undeb Ewropeaidd pan fyddan nhw’n pleidleisio mewn refferendwm mewn/allan ar aelodaeth Prydain, meddai Downing Street.

Mae geiriad y cwestiwn a fydd yn ymddangos ar y papurau pleidleisio yn golygu y bydd pobl sydd o blaid aros yn rhan o’r UE yn rhan o’r ymgyrch “Ie”.

Mae manylion y cwestiwn ac ymrwymiad i gynnal y refferendwm erbyn diwedd 2017 wedi’u cynnwys mewn Bil sydd wedi’i gyflwyno i’r Senedd.

Yn y cyfamser mae David Cameron wedi dechrau gwibdaith o wledydd Ewrop er mwyn ennyn cefnogaeth i’w gynlluniau i ddiwygio perthynas Prydain gyda Brwsel.