Senedd Ewrop
Fydd pobol o wledydd Ewrop sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ddim yn cael pleidleisio  yn y refferendwm ar ddyfodol Prydain oddi mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y bleidlais yn dilyn yr un rheolau ag unrhyw etholiad cyffredinol – sy’n caniatau i bobol o Iwerddon, Melita a Chyprus sy’n byw yn y DU i bleidleisio, ond nid dinasyddion eraill o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y bleidlais yn digwydd cyn diwedd 2017, yn ôl Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wrth gyhoeddi rhai manylion am y refferendwm, cyn croesawu Jean-Claude Juncker i’w gartref swyddogol, Chequers, heddiw.

Fe fydd deddfwriaeth ar gyfer y refferendwm yn cael ei chyflwyno yn Nhy’r Cyffredin ddydd Iau yr wythnos hon – ddiwrnod wedi Araith y Frenhines.

Pwy fydd yn cael fotio?

* Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a’r Gymanwlad sydd dros 18 oed ac yn byw yn y Deyrnas Unedig;

* Fe fydd dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw dramor ers 15 mlynedd neu lai, yn cael bwrw pleidlais hefyd;

* Roedd y rheiny sy’n amheus o’r Undeb Ewropeaidd yn honni y gallai cymaint ag 1.5 miliwn o bobol o wledydd eraill Ewrop bleidleisio pe bai’r refferendwm yn cael ei gynnal yn ôl rheolau eetholiadau llywodraeth leol.

* Mae ystadegau swyddogol yn dangos fod 45.3 miliwn o bobol yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y Deyrnas Unedig y llynedd; o gymharu â 46.8 miliwn mewn etholiadau llywodraeth leol.