Mae trafodaethau trawsbleidiol wedi dechrau yn San Steffan mewn ymgais i achub y Ddeddf Hawliau Dynol.
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron am ddileu’r ddeddf bresennol a chyflwyno Bil Hawliau Prydeinig.
Mae’r SNP bellach mewn trafodaethau â nifer o Geidwadwyr sy’n bwriadu pleidleisio yn erbyn cynlluniau eu harweinydd.
Ymhlith y Ceidwadwyr sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau mae un o weinidogion y Llywodraeth, ac fe fyddai hynny’n golygu diswyddo.
Dywedodd llefarydd materion cartref yr SNP, Joanna Cherry y byddai diddymu’r ddeddf bresennol yn “gam yn ôl”.
Dywedodd wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Byddai’r SNP yn hapus ac yn falch i arwain y gwrthwynebwyr i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Rydym eisoes yn ymwybodol fod nifer o aelodau blaenllaw o feinciau cefn y Ceidwadwyr gyda ni yn hyn o beth.”
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur a’r Democratiaid wrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth.
Ychwanegodd Joanna Cherry: “Rydym yn hyderus y gallwn arwain consensws adeiladol yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n ddigonol i guro’r Llywodraeth, gan dynnu ar ein cyswllt ag aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr.”
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud y gallai’r Alban wrthwynebu’r cynlluniau’n ffurfiol gan nad oes “dilysrwydd” i agenda’r Ceidwadwyr yno.