Mae undebau rheilffyrdd oedd wedi bwriadu cynnal streic dros Ŵyl y Banc wedi penderfynu peidio gweithredu’n ddiwydiannol ar ôl derbyn cynnig cyflog newydd gan Network Rail.

Roedd disgwyl i aelodau undeb rheolwyr y gyrwyr trên y TSSA, ac undeb yr RMT, sy’n cynrychioli y rhan fwyaf o weithwyr Network Rail, ddechrau streic 24 awr am 5:00 brynhawn ddydd Llun.

Mae arweinwyr yr undebau wedi treulio’r pedwar diwrnod diwethaf mewn trafodaethau gyda Network Rail yn trafod telerau.

Roedd Network Rail yn bwriadu dechrau her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn ddiweddarach heddiw yn erbyn pleidlais y TSSA i gynnal streic.

Daeth y cytundeb yn dilyn adroddiadau oedd yn rhybuddio busnesau a theithwyr rheilffyrdd i baratoi ar gyfer anhrefn wrth deithio dros benwythnos gŵyl y banc.

Roedd Trenau Arriva Cymru yn un o’r cwmnïau oedd wedi dechrau rhybuddio teithwyr sut y gallai’r streic effeithio ei wasanaethau.