Fe fydd dyn o Gastell-nedd wnaeth osod golau glas a sticeri’r gwasanaethau brys ar ei gar er mwyn iddo edrych fel ambiwlans yn treulio 20 mis yn y carchar.
Cafodd Phillip Lemonheigh, 60, ei ddal yn gyrru’r ambiwlans ffug ddwywaith ar 24 Awst 2011.
Yn ogystal, ar 8 Gorffennaf 2013 cafodd ei ddal ar gamera cyflymder yn gwibio trwy oleuadau traffig coch ar 73 mya, mewn ardal 50 mya.
Pan wnaeth yr awdurdodau gais am fanylion y gyrrwr, fe gyflwynodd fanylion dyn arall o’r enw Paul Astley.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe wnaeth Lemonheigh gyfaddef un cyhuddiad o yrru’n beryglus a thri o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Clywodd Llys y Goron Abertawe hefyd ei fod wedi ei gael yn euog o dwyllo a dwyn mewn sawl achos yn dyddio’n ôl i’r 1960au.
Bydd yn treulio 20 mis yn y carchar ac yn cael ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.