Mae Network Rail wedi cyflwyno her gyfreithiol i’r Uchel Lys yn erbyn un o’r undebau sy’n bygwth streicio tros gyflogau’r penwythnos yma.

Mae’r cwmni trenau yn honni bod “nifer o ddiffygion” yn nhrefn bleidleisio undeb drafnidiaeth y TSSA – ond mae’r undeb yn gwrthod y cyhuddiad.

Disgwylir i filoedd o weithwyr ledled Prydain gerdded allan o’u gwaith bnawn dydd Llun am 24 awr gan alw am fwy o gyflog.

Cyhuddiadau

“Rydym wedi gofyn i TSSA i dynnu nôl o’u bwriad i weithredu’n ddiwydiannol gan ein bod yn credu bod nifer o ddiffygion yn y wybodaeth a roddwyd yn ystod y bleidlais,” meddai llefarydd o Network Rail.

Mewn ymateb, dywedodd pennaeth TSSA Manuel Cortes: “Rydym yn methu deall pam fod Network Rail wedi cymryd y camau cyfreithiol yma ynghanol trafodaethau i geisio datrys yr anghydfod cyflogau.

“Maen nhw i weld yn awyddus i blesio’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin a’r Torïaid yn fwy na dim byd arall.”

Mae undeb yr RMT hefyd yn bwriadu streicio, wedi i reolwyr wrthod cynnig o daliad untro gwerth £500 i staff a chodiad cyflog am y tair blynedd nesaf, yn unol â chwyddiant.