Ed Miliband
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur gyhoeddi pwy yw eu harweinydd newydd ganol mis Medi.

Bydd y bleidlais i ethol olynydd i Ed Miliband yn cael ei chynnal ym mis Awst, sy’n rhoi tri mis i’r ymgeiswyr ymgyrchu.

Bydd pwyllgor gwaith y blaid yn cwrdd yn ddiweddarach heddiw, ond mae lle i gredu mai Medi 12 yw’r dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer yr etholiad, ddiwrnod cyn i Gyngres y TUC agor.

Opsiynau eraill sy’n cael eu hystyried yw gwneud y cyhoeddiad ganol mis Awst neu’n hwyrach ym mis Medi.

Ond Medi 12 sy’n cael ei ffafrio gan bwyllgor gwaith y blaid, yn ôl adroddiadau.

Roedd nifer o aelodau blaenllaw’r blaid wedi galw am bwyll cyn penodi arweinydd newydd yn sgil etholiad trychinebus.

Roedd y llefarydd trafnidiaeth Michael Dugher wedi galw am ddadl fewnol ynghylch dyfodol y blaid yn dilyn ymosodiad chwyrn ar arweinyddiaeth Ed Miliband.

Mae’r aelod seneddol Jonathan Ashworth wedi awgrymu cynnal yr etholiad ar ôl cynhadledd y blaid ym mis Medi er mwyn manteisio ar gyfle i ymgyrchu.

Mae Chuka Umunna a Liz Kendall eisoes  wedi cyhoeddi eu bwriad i sefyll.

Yr enwau eraill sydd wedi cael eu crybwyll hyd yn hyn yw’r llefarydd addysg Tristram Hunt, y llefarydd materion cartref Yvette Cooper a’r llefarydd iechyd Andy Burnham.

Mae Stella Creasy, aelod seneddol Walthamstow, wedi mynegi diddordeb yn swydd y dirprwy arweinydd.

Gallai hi fynd benben â Tom Watson, cyn-ddirprwy Gadeirydd y blaid.