Prifysgol Abertawe
Mae 60 o swyddi newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ail gampws Prifysgol Abertawe ar gyrion y ddinas.

Bydd y swyddi ar gael yn yr adran Gwasanaethau Campws ar y safle ar Ffordd Fabian – a’r swyddi’n cwmpasu arlwyo, bariau, tiroedd, cyfleusterau, gwasanaethau cwsmeriaid, chwaraeon a hamdden.

Mae’r brifysgol eisoes wedi dechrau proses o recriwtio staff bedwar mis cyn i’r safle gwerth £450 miliwn agor yn swyddogol.

Bydd lle i 5,000 o fyfyrwyr a 1,000 o staff ar y safle newydd pan fydd yn agor ym mis Medi.

Mae disgwyl i’r brifysgol gynnal dau ddiwrnod recriwtio staff ar Fai 23 a Mai 30 ar eu campws ym Mharc Singleton.

‘Blaenllaw’

Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies: “Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol campws flaenllaw yn fyd-eang.

“O adeiladu ar ei champws presennol yn Singleton o fewn parc ger traeth, mae campws newydd y Bae yn gampws sy’n wynebu’r traeth ger safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac iddo arwyddocâd Ewropeaidd.

“Wrth agor ym mis Medi 2015, mae Campws y Bae yn golygu buddsoddiad o £450 miliwn dros ddau gyfnod ac mae’n un o’r prosiectau economi gwybodaeth mwyaf yn Ewrop, gan gynnig cyfleusterau dysgu ac ymchwil wyddonol sy’n cael eu dathlu’n rhyngwladol, gan gynnwys llety sydd wedi cael eu dylunio’n hardd ac i safon uchel.”

“Mae Prifysgol Abertawe wedi adeiladu cymuned newydd sy’n darparu profiadau bywyd cyfan i fyfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd: y nod yw cefnogi ethos ddynamig mewn lleoliad hardd.

“Gyda’r holl gyfleusterau newydd a chyffrous hyn a’r cyfleoedd sydd ar gael mewn lleoliad anhygoel, alla i ddim meddwl am le gwell i bobol dreulio’u diwrnod gwaith.”