Mae tri dyn wedi’u harestio ar ôl i dân bwriadol gael ei gynnau ar ochr mynydd Y Gogarth yn Llandudno neithiwr.
Roedd y fflamau’n gorchuddio safle 400 metr sgwâr o eithin a rhedyn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r Gogarth ychydig cyn 9yh a bu’n rhaid treulio awr a hanner yn diffodd y tân.
Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r tri dyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.
Mae gwasanaethau tân, yn enwedig yn ne Cymru, wedi gorfod delio â nifer uchel iawn o danau gwair bwriadol eleni.