David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno pwerau newydd i fynd i’r afael ag eithafiaeth heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gyhoeddi ei fwriad i gynnwys Bil Gwrth-eithafiaeth yn Araith y Frenhines yn ddiweddarach y mis hwn wrth iddo gadeirio ei gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn yr etholiad cyffredinol.

Fe fydd mesurau newydd yn cynnwys gorchmynion newydd i wahardd sefydliadau eithafol a chyfyngu ar bobl sy’n ceisio radicaleiddio pobl ifanc.

Maen nhw’n rhan o strategaeth ehangach i fynd i’r afael ag eithafiaeth a gafodd ei gyflwyno gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn gynharach eleni.