Ed Miliband yn cyrraedd pencadlys y blaid gyda'r wraig Justine bore ma
Mae Ed Miliband wedi ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad yn dilyn etholiad siomedig i’w blaid, dywedodd Miliband fod “angen Plaid Lafur gref ar Brydain”.

“Mae angen i’r blaid gynnal dadl agored ac onest” ynghylch yr arweinyddiaeth, meddai, gan ychwanegu y byddai ei ddirprwy Harriet Harman yn arweinydd dros dro.

Mae Harriet Harman wedi cyhoeddi prynhawn ma y bydd hi hefyd yn ildio’r awenau fel dirprwy arweinydd pan fydd olynydd i Miliband wedi’i ddewis.

Wrth gyfeirio at Harman, dywedodd Miliband: “Dw i’n falch o fod wedi ei chael hi’n ddirprwy.”

Daw ei ymddiswyddiad wedi canlyniadau siomedig ledled Prydain, ac yn enwedig yn yr Alban lle mae’r blaid wedi colli bron bob sedd.

Dywedodd Miliband ei fod yn barod i gymryd “cyfrifoldeb llawn” am y canlyniadau siomedig, gan ymddiheuro i Ed Balls a Jim Murphy, dau o’r Aelodau Seneddol mwyaf blaenllaw a gollodd eu seddi.

“Mae angen Plaid Lafur gref ar Brydain, mae angen Plaid Lafur ar Brydain sy’n gallu ail-adeiladu yn dilyn y ddadl hon fel y gallwn ni gael llywodraeth sy’n sefyll i fyny dros weithwyr unwaith eto.

“A bellach, mae’n bryd i rywun arall gario arweinyddiaeth y blaid hon ymlaen.”

Collodd Llafur nifer o seddi ymylol a doedden nhw ddim wedi gallu manteisio yn yr etholaethau lle’r oedd y Ceidwadwyr mewn perygl sylweddol.

Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi dychwelyd o’r blaen ac mi fydd y blaid hon yn dychwelyd unwaith eto.”

Wrth gloi’r araith, dywedodd Miliband ei fod yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i deulu, ac fe ddiolchodd i’r cyhoedd am eu cefnogaeth.

“Diolch am yr hun-luniau, diolch am y gefnogaeth.

“A diolch i gwlt mwyaf annhebygol yr unfed ganrif ar hugain – Milifandom.”

‘Ail-ddenu cefnogaeth’

Wrth ymateb i ymddiswyddiad Ed Miliband, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Fe wnes i fwynhau treulio amser gydag e yn ystod yr ymgyrch, ac roedd ganddo wir ddiddordeb yn agenda Llafur Cymru ac yn ei gefnogi.

“Rydw i’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

“Yn amlwg, nid hwn oedd y canlyniad yr oedden ni’n gobeithio ei weld, a byddaf yn chwarae rhan lawn wrth geisio cynyddu cefnogaeth ein plaid cyn etholiadau’r dyfodol.

“Mae’r canlyniadau’n dangos bod rhaid i ni wneud llawer mwy er mwyn ail-ddenu cefnogaeth pobol ledled y wlad.”