Bydd y tri Aelod Seneddol o Blaid Cymru yn cynnig llais cryf i Gymru yn San Steffan, yn ôl Leanne Wood.

Llwyddodd y tri – Hywel Williams (Arfon), Jonathan Edwards (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) a Liz Saville Roberts (Dwyfor Meirionnydd) i ddal gafael Plaid Cymru ar y seddi.

Liz Saville Roberts yw’r Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yn hanes Plaid Cymru.

Serch hynny, roedd siom mewn nifer o seddi yr oedd Plaid Cymru wedi’u targedu – Ceredigion ac Ynys Môn yn eu plith.

Bellach, mae Plaid Cymru’n bedwerydd y tu ôl i UKIP yng Nghymru.

Ond dywed Leanne Wood fod cynnydd yn y bleidlais ledled Cymru’n dangos bod pobol yn chwilio am ddewis amgen i’r pleidiau sy’n cynrychioli’r ‘sefydliad Prydeinig’.

Ychwanegodd fod y Blaid Lafur wedi methu yn eu hymgais i gynnig dewis amgen i doriadau’r Ceidwadwyr.

Mewn datganiad, dywedodd Leanne Wood: “Yn ystod yr ymgyrch hwn defnyddiodd Blaid Cymru bob cyfle i gyflwyno gweledigaeth amgen bositif o ddyfodol Cymru. Roedd disgwyl i ni golli dwy o’n tair sedd ar ddechrau’r ymgyrch ond yn y pen draw rydym wedi cynyddu ein mwyafrif yn y ddwy sedd honno, a chynyddu ein cyfran o’r bleidlais mewn mannau eraill.

“Bydd tîm ASau Plaid Cymru yn gwneud yn siwr fod Cymru wrth galon y ddadl pob dydd o hyn allan.

“Rydym wedi ennill tir mewn mannau newydd megis Rhondda, Caerdydd, Pontypridd, Wrecsam a chymoedd gorllewinol, a bydd hyn yn ein rhoi mewn safle cadarn ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.

“Mae’r blaid Lafur wedi methu cynnig dewis amgen credadwy i agenda lymder greulon y blaid Geidwadol. Rydym yn disgwyl toriadau hyd yn oed gwaeth, mwy o lymder i’n cymunedau lleol – er gwaetha’r ffaith nad yw Cymru wedi rhoi mandad iddynt i wneud hynny. Dim ond Plaid Cymru sy’n cynnig dewis amgen positif.

“Bydd Plaid Cymru yn dal llywodraeth nesaf y DG i gyfrif a byddwn yn rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan.”