Mae’r rhai wnaeth golli eiddo drudfawr yn lladrad Hatton Garden wedi cael gwybod mai siawns “fach iawn” sydd yna y cawn nhw’r eiddo yn ôl.

Fe wnaeth o leiaf chwe dyn dorri i mewn i 72 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden yn Llundain dros benwythnos y Pasg.

Mewn lluniau teledu cylch cyfyng, gwelir y dynion yn gadael gyda thrysorau, sy’n cael eu hamcangyfrif i fod werth £1 biliwn, mewn bagiau a biniau olwynion ac yn dianc mewn fan wen ddydd Sul y Pasg.

Cafodd y newydd ei dorri i tua 25 o bobol wnaeth golli eiddo yn y lladrad mewn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r London Diamond Bourse heddiw.